Moilin?

Gyredig gan angerdd am brofiadau digidol ystyrlon, mae Moilin yn enw sy'n gysylltiedig ag ansawdd, a dros y 7 mlynedd ddiwethaf wedi dod yn arweinydd mewn cynhyrchu profiadau dwyieithog o ansawdd uchel.

Mae Moilin yn bennaf yn cynhyrchu i dwristiaeth, digwyddiadau ac addysg, ac wedi cyhoeddi apiau proffil amlwg, llwyddiannus, yn cynnwys Eistedded yr Urdd, Taith Dylan Thomas yn Efrog Newydd, S4C: Dal Ati a Sioe Frenhinol Cymru.

Ar hyn o bryd, mae Moilin yn gweithio ar nifer o brofiadau digidol arloesol i'r sector dwristiaeth, yn gwthio ffiniau profiadau realiti estynedig, rhithwir a cymysg.


Moilin hefyd yw'r tîm ti ôl i'r gwasanaeth gwerthiant tocynnau ar lein cwbl ddwyieithog : Tocyn Cymru. (wedi ei ariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru.)

Tocyn Cymru

Ein Gwaith

Mae tîm bychan Moilin, gyda dros 30 mlynedd o brofiad ar y cyd, yn cynhyrchu datrysiadau digidol creadigol uchel gan ddefnyddio technolegau ymyl dorri.

Apiau Tywys

Mae Moilin wedi cynhyrchu amryw o Apiau Tywys yn seiliedig ar leoliad (e.e. Dylan Thomas yn Efrog Newydd a Castell Henllys), gan ddefnyddio’u fframwaith datblygu mewnol, sy'n gwneud defnydd o'r technolegau diweddaraf tra'n cadw prisiau'n isel.

Mae'r Apiau Tywys hyn yn cynnwys y defnydd o Fapiau GPS, Codau QR, Realedd Estynedig, Gêmau Cwis, Helfeydd Trysor, Teithiau Clywedol... yn ogystal â'r nodweddion safonol disgwyliedig o ap tywys rinweddol.

Apiau Digwyddiadau

Gyda'u apiau digwyddiadau yn cyrraedd y siartiau uchaf ar iTunes, mae Moilin wedi cynhyrchu apiau digwyddiadau uchel eu safon i rai o brif ddigwyddiadau Cymru, sef, Eisteddfod Urdd a Sioe Frenhinol.

Mae'r holl apiau digwyddiadau yn ddwyieithog, ac yn cynnwys amserlenni personoledig, mapiau GPS, cyfryngau cyfoethog a hysbysiadau addasiedig - gan gadw'r cyfranogwyr yn fodlon, cyn, yn ystod ac ar ôl y digwyddiad.

Addysg

Gyda phartneriaid sy'n arbenigwyr mewn addysg a dylunio hyfforddiadol, mae Moilin wedi cynhyrchu amrywiaeth eang o adnoddau addysgol i oedolion a phlant, wedi eu trosglwyddo trwy gyfrwng apiau symudol a pyrth y we (e.e. adnoddau Wenfro).

Mewn partneriaeth ag Optimwm, a trwy weithio gydag amryw o ysgolion a phrifysgolion, mae Moilin ar hyn o bryd yn datblygu llwyfan er mwyn trosglwyddo dysgu cyfun sy'n cynnwys profiadau ar y we a ffonau symudol i atgyfnerthu'r dysgu wyneb i wyneb craidd.

Dadansoddiad

Mae Moilin yn sicrhau ein bod yn llwyr ddeall eich busnes a'ch anghenion cynhyrchiol, gan ddadansoddi pob un o safbwyntiau'r hapddaliwr.

Mae dylunio defnyddiwr-ganolog, wrth gwrs, yn rhan hanfodol o'r ffordd rydym yn datblygu gofynion prosiectau.

Technoleg

Ni allwn ac ni wnawn gyfaddawdu ar y technolegau a ddefnyddiwn. Mae cadw i fyny â dyfeisiadau newydd yn anodd, ond dyma sydd raid i fod y gorau y gallwn fod!

MAe ein datblygwyr profiadol yn gweithio ar y llinell dorri - ac maent wrth eu bodd!

Cyfryngau Cyfoethog

Mae ein mynediad i dîm cynhyrchu cyfryngol arbenigol yn golygu fod Moilin yn medru trosglwyddo cynnyrch safonol gyda phrofiad clyweledol wedi ei lwyr ymdrwytho.

Cynhyrchiad fideo, Ffotograffiaeth, Trosleisiadau, Rhagluniau Drôn: Gellir cyfuno'r rhain i gyd â'n profiadau digidol.

Cysylltwch

Os oes gennych ddiddordeb mewn clywed mwy am beth allwn wneud, a sut gallwn eich helpu gyda'ch profiadau digidol, yna cysylltwch â ni. Buasem wrth ein bodd yn clywed oddi wrthych.

contact-person

Osian Evans

Perchennog
E-bost: osian@moilin.co
Ffôn: +44 7980 953017